Sut Rydym yn ei Wneud
Beth sy'n gwneud Firefox yn wahanol? Y peth mwyaf pwysig yw ein bod yn agored. Mae hynny'n golygu y gall unrhyw un ar draws y byd i gyd (ac mae gennym filoedd o arbenigwyr yn gwylio'n cefnau) edrych ar ein cod a dod o hyd i wendidau ynddo.
A phan fyddwn yn clywed am broblem, gallwn symud yn sydyn i gywiro'r gwendid. Mae er lles i chi (ac i ninnau) i gymryd gofal o'r mater, hyd yn oed os yw'n gofyn cydnabod ein bod ychydig yn llai na pherffaith.
Yn syml, ein prif nod yw eich diogelwch chi.

Mae yna Reswm i'n Ffordd ni o Weithio
Does neb yn fwy hoff o'r We na ni. Ond mae bygythiadau real i'w cael gan sgamwyr, sbamwyr a firysau hyfyw, felly mae'n rhaid i chi amddiffyn eich hun wrth ddefnyddio'r We.
Dyna Lle Mae Firefox yn Dod i'r Amlwg
Defnyddio Firefox yw'r ffordd fwyaf diogel i bori'r we oherwydd:
- Mae cymuned ryngwladol o arbenigwyr yn gweithio'n ddi-baid i ddiogelu eich pori (diolch i'n ffordd cod agored o wneud pethau). Felly byddwn ni ddim ar ben ein hunain yn trin y pethau hyn. Mae fel bod eich gwarchodaeth cymunedol yn cael ei arwain gan grwp o ninjas ffit
- Rydym yn ystyried eich diogelwch ymhob cam. Mae arbenigwyr diogelwch yn gweithio o'r cychwyn i adnabod ac ymateb i broblemau tebygol cyn bod llinell o god yn cael ei ysgrifennu.
- Rydym yn rhoi sylw parhaus i wendidau. Rydym yn monitro bygythiadau'n barhaus ac yn ryddhau diweddariadau o Firefox i gadw un cam ar y blaen. Oherwydd ein bod yn gweithredu mewn byd cod agored mae unrhyw un yn gallu'n cynorthwyo i ganfod a chywiro'n mannau gwan.
Am ragor o wybodaeth ar sut mae Firefox yn eich cadw'n ddiogel ar-lein, ewch i'n blog diogelwch.