Hoffech chi helpu? Gwych! Does dim rhaid bod yn arbenigwr C++ ( na hyd yn oed wybod beth mae hynny'n ei feddwl) a does dim rhaid treulio llawer o amser arno 'chwaith.
Ffyrdd Hawdd o Gyfrannu
- Dweud wrth eich teulu, ffrindiau a chydweithwyr am gynnyrch Mozilla.
- Helpu pobl eraill ar ein byrddau neges a fforymau cefnogi.
- Ymuno â'n tîm marchnata cymunedol a chynorthwyo ein hymgyrchoedd lleol.
- Sicrhau eich bod yn anfon data chwalu at ein tîm datblygu.
- Cysylltu â gwefannau sydd ddim yn gweithio'n iawn gyda chynnyrch Mozilla.
- Gwneud rhodd i'r Mozilla Foundation
Ar Gyfer y Rhai mwy Technegol
- Ymuno â'n tîm sicrwydd ansawdd ac adrodd ar wallau a phroblemau eraill i'w trin.
- Cynorthwyo i ysgrifennu neu olygu dogfennau ar gyfer datblygwyr
- Cynorthwyo i ysgrifennu neu olygu dogfennau ar gyfer defnyddwyr.
- Cyfrannu i gyfoeth byd Firefox drwy ddatblygu Ychwanegyn
- Cywiro gwall neu gyfrannu cod i'r project