Nid cwmni meddalwedd traddodiadol yw Mozilla. Rydym yn gymuned byd eang sydd â’n bryd ar adeiladu cynnyrch a thechnolegau rhydd a chod agored sy'n gwella profiad ar-lein pobl ymhob man. Rydym yn rhaglennwyr, marchnatwyr, profwyr ac eiriolwyr byd eang sy'n gweithio i sicrhau fod y We'n parhau fel adnodd cyhoeddus agored. Rydym yn credu fod safonau agored yn caniatáu a galluogi dewis arloesi a bod pawb, ym mhob man yn haeddu cael y profiad ar-lein mwyaf diogel, cyflym a gorau.
Mae ein cynnyrch meddalwedd a'n technolegau wedi ennill gwobrau lawer ac yn cael eu cynnig am ddim i bobl ymhob man mewn o leiaf 40 iaith.
Mae Mozilla wedi ei leoli yn Mountain View, California ac mae gennym swyddfeydd ardal yn Auckland, Beijing, Copenhagen, Paris, Tokyo a Toronto.