<?php // The $body_* variables are for compatibility with pre-existing css // the $page_title string should be translated $page_title = 'Firefox: 100% Organic Software'; $body_id = 'firefox-organic'; $body_class = 'products'; $extra_headers = << EXTRA_HEADERS; @include_once "{$config['file_root']}/{$lang}/includes/header-portal-pages.inc.php"; ?>

Ffordd Well ar y We

Neu, beth all porwr grym cymuned cod agored wneud i chi.

Beth yw meddalwedd organig?

Fel mae cwmnïau meddalwedd fel rheol, rydym braidd yn anghyffredin. Rydym yn defnyddio'r term meddalwedd organig i grynhoi'r ffyrdd rydym yn wahanol i'r lleill:

Mae ein cynnyrch enwocaf Firefox wedi ei greu gan fudiad rhyngwladol o filoedd, ond dim ond cyfran fechan iawn sy'n staff cyflogedig.

Rydym wedi ein hysbrydoli gan ein hawydd i hyrwyddo dulliau agored, arloesol a chyfle ar y we yn lle pryderon arferol busnes, megis elw neu bris ein stoc (syndod y byd: does gennym ddim stoc).

Ac fel corff dim elw, lles cyhoeddus, rydym yn diffinio llwyddiant yn nhermau adeiladu cymunedau a chyfoethogi bywydau pobl. Rydym yn credu yng ngrym a photensial y Rhyngrwyd ac am ei weld yn ffynnu er mwyn pawb, ym mhob man.

Merch Firefox

Beth yw Cod Agored

Efallai bod hyn i'w weld yn hurt i ddechrau, ond: rydym yn credu y gorau po fwyaf o bobl sy'n gwybod am ein cyfrinach.

Felly rydym yn agor cod ffynhonnell Firefox, yr union beth sy'n ei wneud i weithio, i'r byd ac annog pawb i gael golwg iawn.

Roedd rhai pobl wedi gweld pethau i'w gwella ac wedi eu trwsio. Cafodd rhai eraill syniadau am nodweddion newydd a'u gwireddu. Ac roedd eraill eto, wedi cymryd y cod, gosod eu syniadau newydd arno a chreu cynnyrch newydd sbon (ac anhygoel).

A'r foeswers? Mae bod yn agored yn arwain at bethau da. Gall unrhyw un edrych tu nôl i'n llenni ni, er does dim llenni, beth bynnag.

Pam ddylech chi boeni?

Efallai nad ydym yn gwmni arferol, ond ond rydym yn gwybod sut i ganolbwyntio ar yr hanfodion: gwneud y we yn well lle i chi

Mae bod yn agored yn golygu y gall y syniad mawr nesaf ddod gan unrhyw un ar draws y byd i gyd yn lle dibynnu ar yr ychydig ddwsinau o beirianwyr yn swyddfeydd ein cwmni. Pan rydych yn edrych ar yr ateb fel hy, pam ei wneud unrhyw ffordd arall?

Mae'r holl sôn am feddalwedd organig a chod agored yn y pen draw yn golygu porwr gwell i chi a'r 150 miliwn o ddefnyddwyr Firefox rheolaidd. Mae'n golygu cynnyrch o ansawdd uwch a mwy diogel. Mae'n golygu arloesi, rhyddid a chefnogi'r Rhyngrwyd sy'n agored i bawb.

<?php @include_once "{$config['file_root']}/{$lang}/includes/footer-portal-pages.inc.php"; ?>